ⓘ Ainŵeg yw iaith a siaredir gan aelodau’r grŵp ethnig Ainw ar ynys Hokkaidō yng ngogledd Japan. Mae hi’n iaith mewn perygl, ond ceir ymgais i’w hadfywio. Mae ang ..

                                     

ⓘ Ainŵeg

Ainŵeg yw iaith a siaredir gan aelodau’r grŵp ethnig Ainw ar ynys Hokkaidō yng ngogledd Japan. Mae hi’n iaith mewn perygl, ond ceir ymgais i’w hadfywio. Mae anghytundeb ar sawl siaradwr sydd yn bodoli heddiw, ac maer niferoedd yn amrywio rhwng 2 a 15 o siaradwyr.

Siaredir Ainŵeg yn flaenorol yn eang ar draws Hokkaidō, ar draws llawer o ynys Sachalin, ac ar yr ynysoedd Kuril sydd yn cysylltu gogledd-ddwyrain Hokkaidō â gorynys Kamchatka yn Siberia. Mae hefyd arwydd o’r iaith yn cael ei defnyddio ar Honshū, rhan ogleddol prif ynys Japan, o edrych ar enwau llefydd yn yr ardal. Mae’r ardaloedd traddodiadol lle bu’r iaith yn cael ei siarad wedi dioddef symudiad iaith enfawr dros y 200 mlynedd diwethaf.

                                     

1. Dosbarthiad Ieithyddol

Disgrifir Ainŵeg fel unigyn iaith, h.y. nid yw hin perthyn i unrhyw iaith arall, ond mae sawl awgrym wedi bod ynglyn â pha deulu ieithyddol y maer Ainŵeg yn ei berthyn iddo. Yn ei eiriadur Ainŵeg-Saesneg-Japaneg ym 1889, awgrymodd John Batchelor bod yr iaith yn perthyn ir ieithoedd Indo-Ewropeaidd, gan gymharu geiriau rhwng Ainŵeg ar Gymraeg a Chernyweg, er enghraifft garu a garw sydd âr un ystyr; guru, syn golygu person neu dyn, a gŵr ; pen, sydd yn golygu aber, rhan uwch o ddyffryn, neu darddle, mewn cymhariaeth ar gair pen yn y Gymraeg; a chisei, tshe neu che, sydd yn golygu tŷ, a oedd Batchelor yn gweld yn debyg ir gair Cernyweg tshey, sef tai.

                                     

2. Siaradwyr

Ystyrir yr Ainŵeg yn iaith mewn perygl ers cyn y 1960au. Mae’r rhan fwyaf o’r 15.000 o Ainwiaid ethnig yn Japan yn siarad Japaneg yn unig. Yn ystod y 1980au roedd 100 siaradwr, a dim ond pymtheg ohonynt a oedd yn defnyddio’r iaith yn feunyddiol. Ym 1996 roedd pymtheg o siaradwyr iaith gyntaf yn bodoli yn Japan, a phob un ohonynt o leiaf 80 mlwydd oed. Roedd Ainŵeg dal iw clywed yn neheubarth ynys Sachalin ar ddechraur 20g. Bu farw siaradwr olaf Ainŵeg ynys Sachalin ym 1994.

Mae DeChicchis 1995 yn categoreiddio siaradwyr Ainŵeg mewn i 4 grŵp:

  • Siaradwyr dwyieithog a gafodd eu magu yn clywed neu siarad Ainŵeg yn y gymuned fel plant
  • Siaradwyr archifol – y siaradwyr sydd i’w clywed mewn hen recordiau o’r iaith
  • Siaradwyr ail-iaith sydd yn dysgu Ainŵeg naill ai oherwydd rhesymau etifeddiaeth neu o ran diddordeb personol.
  • Siaradwyr symbolaidd sydd yn cofio rhai geiriau ac ymadroddion ac weithiau’n eu defnyddio wrth siarad Japaneg
                                     

3. Dirywiad ac Adfywiad

Dechreuodd dirywiad Ainŵeg yn y 19g yn ystod yr Oes Meiji. Roedd angen i Japan diffinio ei ororau gogleddol yn erbyn Rwsia, felly roedd rhaid ir wladwriaeth taeru mai Japaneaid oedd y cynfrodorion ar Ezo enw gwreiddiol Hokkaidō er mwyn hawlio mai rhan o Japan oedd yr ynys, a newidwyd enwr ynys i Hokkaidō ym 1869. Crewyd y Deddf Diogelu Cynfrodorion Hokkaidō Japaneg: hokkaidō kyūdojin hogohō ym 1899 i gymathu ac integreiddior Ainwiaid i ddiwylliant Japan gan eu gwahardd rhag gymryd rhan mewn traddodiadau diwylliannol brodorol, gan gynnwys siarad eu hiaith. Yn sgil hyn, diflannodd yr iaith o ddefnydd beunyddiol yn y gymuned, y teulu, yr ysgol a pharthau cyhoeddus eraill.

Heddiw mae mudiad i adfywio’r iaith, yn bennaf yn Hokkaidō ond hefyd mewn mannau eraill, ac nawr mae yna nifer gynyddol o ddysgwyr ail iaith. Ym 1997 crewyd y Deddf Hyrwyddo Diwylliant Ainu a sefydliwyd y Sefydliad ar gyfer Ymchwil a Hyrwyddo Diwylliant Ainw Saesneg: The Foundation for Research and Promotion of Ainu Culture FRPAC), yn cynnig hyfforddiant a dosbarthiadau, ac maent yn datblygu gwerslyfrau a deunyddiau dysgu eraill ac yn darlledu rhaglen radio i ddysgwyr.