ⓘ Gwarchodfa Natur Conwy. Gwarchodfa Natur wedi ei lleoli yng Nghyffordd Llandudno ar ochr ddeheuol yr A55 yw Gwarchodfa Natur Conwy. Agorwyd y Warchodfa ar y 14 ..

                                     

ⓘ Gwarchodfa Natur Conwy

Gwarchodfa Natur wedi ei lleoli yng Nghyffordd Llandudno ar ochr ddeheuol yr A55 yw Gwarchodfa Natur Conwy. Agorwyd y Warchodfa ar y 14 Ebrill 1995 a cheir yno ganolfan ymwelwyr gyda siop, caffi a thri chuddfan sef: Tal y Fan, Carneddau a Benarth.

Pan adeiladwyd Twnnel Afon Conwy a’r A55 rhwng 1986 a 1991 dinistriwyd cynefin bywyd gwyllt ar ochr ddwyreiniol yr afon. I wneud iawn am hyn penderfynwyd datblygu gwarchodfa natur ar y safle gan yr RSPB ac fe gariwyd y gwastraff a gafwyd ar ôl crafu wyneb y tir, a’i ddefnyddio i greu dau bwll enfawr o ddŵr a nifer o byllau bach a thirluniwyd y cyfan.

                                     

1. Lleoliad

Maer Warchodfa Natur wedi ei lleoli yng Nghyffordd Llandudno ar yr ochr ddeheuol wedi chwi ddod oddi ar yr A55 a dilynwch yr arwyddion brown. O dref Gonwy, pentref Deganwy neu dref Landudno dilynwch yr A546/A547 heibio Archfarchnad Tesco a chroesir gylchfan dros yr A55, eton dilyn yr arwyddion brown.

                                     

2. Agor y Warchodfa

Agorwyd y Warchodfa ar 14 Ebrill 1995 ac erbyn 2017 roedd yno ganolfan ymwelwyr sy’n cynnwys siop, caffi a thri chuddfan sef Tal y Fan, Carneddau a Benarth, yn ogystal â Thŷ Gwylio.

Dŵr croyw sydd yn y pyllau, dŵr syn cael ei gymryd o Afon Ganol. Yn 2010 amharodd cyfnod o sychder yn ddifrifol ar lefel y dŵr yn y pyllau ac ni wellodd y sefyllfa er gwaethar holl law a syrthiodd yng Ngorffennaf.

                                     

3. Gwahanol Adar

Hyd at 2017, cofnodwyd dros 240 o wahanol adar ar y safle yn cynnwys cornchwiglen, cwtiad torchog bach, ehedydd, telor y cyrs, y pibydd hirgoes a’r rhegen fraith.

Ni ddechreuodd y creyr bach nythu yng Nghymru hyd 2002 ond erbyn 2017 roedd yn eithaf cyffredin. Mae ganddo wddf hir tenau, pig fain ddu ac wyneb llwyd a gwelir hyd at dwsin ohonynt yno gyda’i gilydd. Golygfa ryfeddol yw honno pan fydd cannoedd ar gannoedd o ddrudwennod yn cyrraedd fel mae’n nosi, i glwydo yn y gaeaf, fel arfer mae mwy iw gweld ar ôl y Nadolig.

                                     

4. Rhai uchafbwyntiau

  • Yn y gwanwyn gweld Teloriaid yr hesg, yn enwedig felly yn ystod misoedd Ebrill a Mai.
  • Y drudwennod yn ymgasglu cyn clwydo dros nos yn y Warchodfa.Fel arfer wedir Nadolig maent ynon fwy aml.
  • Yn yr haf gweld yr holl Wenoliaid, Gwenoliaid y bondo a Gwenoliaid y glennydd.
  • Y gwahanol fathau o Degeirian Gwenyn syn tyfu yno.
                                     

5. Bywyd gwyllt arall

Mae’r bywyd gwyllt ar y safle’n amrywiol ac yn cynnwys y carlwm, gwenci, llwynog ac o bryd i’w gilydd y dyfrgi. Gwelir 16 o fathau o was neidr a mursennod a 28 o wahanol ieir bach yr haf. Erbyn 2017 roedd 356 o wahanol fathau o blanhigion yn tyfu yno ac o leiaf naw math o ystlumod yn cynnwys ystlum Natterer, yr ystlum mawr ac ystlum y dŵr.

Defnyddir Merlod y Carneddau i bori glaswellt y warchodfa.

Maer warchodfa ar agor bob dydd ar wahân i Ddydd Nadolig, rhwng 10 y bore a 5 y prynhawn.

                                     

6. Dathliadau Penblwydd Gwarchodfa Natur Conwy yn 20 oed

Bu prysurdeb mawr yng Ngwarchodfa Natur Conwy dros y penwythnos Gorffennaf 25 a 26, 2015, gydag Iolo Williams yn cymryd rhan yn y gweithgareddau ac yn arwain teithiau natur. Bu’r cerflunydd Simon O’Rouke yn brysur yn ddiweddar yn creu cerfluniau o gwmpas y safle, ac, ar y Sadwrn, dadorchuddiwyd un o’i gampweithiau gan Iolo Williams

Hefyd, ar y nos Iau, i gyd-fynd â’r dathliadau, recordiwyd rhifyn arbennig o Galwad Cynnar’ gan Radio Cymru gyda Gerallt Pennant wrth y llyw.



                                     

7. Cyhoeddiadau eraill

Cyhoeddwyd yr erthygl hon mewn dwy ran gan Gareth Pritchard yn Y Pentan, papur bro yr ardal rhwng Llanrwst a Llandudno, Llanfairfechan a Hen Golwyn.