ⓘ Cyfansoddair cywasgedig. Cyfuniad o rannau neu synau o eiriau eraill i greu gair newydd, gydag ystyr syn gyfuniad o ystyron y geiriau a gyfunwyd, yw cyfansoddai ..

                                     

ⓘ Cyfansoddair cywasgedig

Cyfuniad o rannau neu synau o eiriau eraill i greu gair newydd, gydag ystyr syn gyfuniad o ystyron y geiriau a gyfunwyd, yw cyfansoddair cywasgedig.

Mae cyfansoddair cywasgedig yn wahanol i gywasgiad, fel y maer geiriau rhai a hyn yn troin rhain, a hefyd i gyfansoddair, fel y mae melynwy yn gyfuniad o melyn ac wy. Un or cyfansoddeiriau cywasgedig mwyaf adnabyddus ywr gair Saesneg Brexit, syn gyfuniad cywasgedig o Britain ac exit.

Yn Saesneg, defnyddir y gair portmanteau i gyfeirio at y math hwn o air - gair syn cyfeirio at gist deithio, ond a ddefnyddiwyd gan yr awdur Lewis Carroll, a gan y cymeriad Humpty-Dumpty i ddisgrifior math hwn o gyfansoddair yn ei gyfrol Through the Looking Glass 1871.

                                     

1. Enghreifftiau Cymraeg

Ymhlith yr enghreifftiau cyfoes Cymraeg o gyfansoddeiriau cywasgedig mae:

hwylacio - hwyl + ymlacio = chillaxing bronion neu brynion - bron + dynion = moobs man boobs cerbryd - cerbyd a pryd = drive through bwyd Sbwrgi - Sbwriel a ci = Litterbug