ⓘ Tŵr Eiffel. Tŵr mawr haearn yng nghanol Paris yw Tŵr Eiffel. Saif ar y Champs de Mars ar lan Afon Seine. Cwblhawyd y tŵr yn 1889 yn ôl dyluniad gan y peiriannyd ..

                                     

ⓘ Tŵr Eiffel

Tŵr mawr haearn yng nghanol Paris yw Tŵr Eiffel. Saif ar y Champs de Mars ar lan Afon Seine. Cwblhawyd y tŵr yn 1889 yn ôl dyluniad gan y peiriannydd Gustave Eiffel. Pan gafodd ei adeiladu, Tŵr Eiffel oedd y strwythur uchaf yn y byd. Arhosodd felly tan 1930, pan adeiladwyd Adeilad Chrysler yn Efrog Newydd. Maen enwog heddiw fel delwedd symbolaidd o Baris ac o Ffrainc yn rhyngwladol.

Uchder gwreiddiol y tŵr oedd 312 metr, ond gan gynnwys y mast radio ar ei ben maen 324 metr 7 metr yn dalach na Pholyn Nebo, y strwythur uchaf yng Nghymru. Erbyn hyn, mae strwythur uwch iw gael yn Ffrainc, polyn radio y llynges ger Rosnay sydd 357 metr o uchder. Gan mai mast yw tŵr Eiffel, yn hytrach nag adeilad fel y cyfryw, nid yw fel arfer yn ymddangos ar restrau or adeiladau uchaf yn y byd. Er enghraifft, yr entrychdy uchaf yn Ffrainc ers 2011 yw Tour First yn ardal La Défense yn Courbevoie ar gyrion Paris, sydd 231 metr o uchder yn unig.