ⓘ Botaneg ywr astudiaeth wyddonol o fywyd planhigion. Fel cangen o fioleg, weithiau cyfeiriwyd ato fel gwyddor planhigion, bioleg planhigion neu lysieueg. Mae bot ..

                                     

ⓘ Botaneg

Botaneg ywr astudiaeth wyddonol o fywyd planhigion. Fel cangen o fioleg, weithiau cyfeiriwyd ato fel gwyddor planhigion, bioleg planhigion neu lysieueg. Mae botaneg yn cynnwys graddfa eang o ddisbyglaethau gwyddonol syn astudio strwythur, tyfiant, atgenhedliad, metabolaeth, datblygiad, afiechydon, ecoleg, ac esblygiad planhigion.

                                     

1. Maes a phwysigrwydd botaneg

Megis ffurfiau bywyd eraill ym mioleg, gall planhigion cael eu hastudio o safbwyntiau gwahanol, or lefel moleciwlaidd, genetig a biocemegol trwy organebau, celloedd, meinweoedd, organau, unigolion, poblogaethau planhigion, a chymunedau planhigion. Ar bob un or lefelau yma gall botanegwr ymddiddorii hunan mewn dosbarthiad tacsonomeg, strwythur anatomeg, neu swyddogaeth ffisioleg planhigion.

Yn hanesyddol, mae botaneg yn ymdrin â phob organeb na ystyrir yn anifeiliaid. Mae rhai or organebau yma yn cynnwys ffyngau a astudir ym mycoleg, bacteria a firysau a astudir ym microbioleg, ac algae a astudir yn phycoleg. Ni ystyrir y rhan fwyaf o algae, ffyngau, a microbau i fod yn y deyrnas planhigion rhagor. Er hynny, mae sylwn dal i gael ei roi iddynt gan fotanegwyr, ac fel arfer ymdrinir â bacteria, ffyngau, ac algae mewn cyrsiau botaneg rhagarweiniol.

Mae astudiaeth planhigion yn bwysig am nifer o resymau. Mae planhigion yn rhan sylfaenol o fywyd y Ddaear. Maent yn cynhyrchu ocsigen, bwyd, ffibrau, tanwyddau a moddion syn galluogi ffurfiau uwch o fywyd i fodoli. Mae planhigion hefyd yn amsugno carbon deuocsid nwy tŷ gwydr arwyddocaol, drwy ffotosynthesis. Mae dealltwriaeth dda o blanhigion yn hanfodol i ddyfodol dynolryw gan ei fod yn ein galluogi ni i:

  • Deall prosesau bywyd sylfaenol
  • Fwydor byd
  • Defnyddio moddion a defnyddiau
  • Deall newidiadau amgylcheddol
                                     

2.1. Hanes Botaneg gynnar cyn 1945

Ymhlith y gweithiau botanegol cynharaf mae dau draethawd mawr gan Theophrastus, a ysgrifennir tua 300 C.C.: Ar Hanes Planhigion Historia Plantarum ac Ar Achosion Planhigion. Gydai gilydd maer llyfrau yma yn y cyfraniad pwysicaf i wyddor planhigion yn ystod yr henfyd hyd yr Oesoedd Canol. Maer awdur meddygol Rhufeinig Dioscorides yn rhoi tystiolaeth bwysig am wybodaeth Groegaidd a Rhufeinig am blanhigion meddygol.

Yn 1665, gan ddefnyddio microsgop cynnar, darganfu Robert Hooke gelloedd mewn corc, ac yna mewn meinwe planhigyn byw. Cyhoeddodd yr Almaenwr Leonhart Fuchs, y Swisiad Conrad von Gesner, ar awduron Prydeinig Nicholas Culpeper a John Gerard llysieulyfrau yn rhoi gwybodaeth ar ddefnyddiau meddygol planhigion.

                                     

2.2. Hanes Botaneg fodern ers 1945

Mae cryn dipyn or wybodaeth newydd y ddysgem am fotaneg heddiw yn dod o astudio blanhigion model megis Arabidopsis thaliana. Roedd y chwynnyn mwstard yma yn un or planhigion cyntaf i gael dilyniant ei genom ei ddarganfod. Mae dilyniant DNA genom reis wedi ei wneud yn y fodel mewn ffaith ar gyfer grawnfwyd, gwair a monocot. Mae Brachypodium distachyon, rhywogaeth gwair arall, hefyd yn ymddangos fel model arbrofol ar gyfer deall bioleg genetig, cellog a moleciwlaidd gweiriau tymherus. Mae prif bwydydd eraill syn bwysig ym myd masnach, megis gwenith, indrawn, haidd, rhyg, miled ar ffeuen soia, hefyd yn derbyn ymchwil iw dilyniannau genom. Mae hyn yn gallu bod yn waith anodd iawn gan fod gan rhai mwy na ddwy set haploid o gromosomau, cyflwr a elwir yn bolyploidaeth, syn gyffredin yn y deyrnas planhigion. Mae Chlamydomonas reinhardtii alga gwyrdd, ungell yn fodel blanhigyn arall sydd wedi cael ei hastudion ymestynnol ac wedi rhoi mewnwelediadau pwysig i mewn i fioleg celloedd.