ⓘ Awgrymeg. Dull addysgu iaith a ddatblygwyd gan y seicotherapydd Bwlgaraidd Georgi Lozanov ydy awgrymeg. Fei defnyddir mewn llawer o wahanol feysydd, ond fei def ..

                                     

ⓘ Awgrymeg

Dull addysgu iaith a ddatblygwyd gan y seicotherapydd Bwlgaraidd Georgi Lozanov ydy awgrymeg. Fei defnyddir mewn llawer o wahanol feysydd, ond fei defnyddir yn bennaf wrth addysgu iaith dramor. Yn ôl Lozanov, gall myfyrwyr ddysgu iaith yn llawer cyflymach wrth ddefnyddio awgrymeg mewn cymhariaeth â dulliau addysgu traddodiadol.

Enw arall ar awgrymeg ydy "ffug-wyddoniaeth" yn ôl rhai addysgwyr iaith. Maen dibynnun fawr iawn ar y ffydd a ddatblygir gan y myfyriwr o gredu bod y dull jyst yn gweithio, heb gwestiynu.

Rhoddwyd awgrymiad cadarnhaol ar yr addysgu wrth ir dull ddatblygu yn y 1970au. Serch hynny, maer dull bellach yn canolbwyntio ar "dysgu dadawygrymol" desuggestive learning, ac fei elwir yn "dadawgrymeg" yn aml yn sgil y canolbwyntio yma. Yn y Saesneg gwreiddiol, cyfansoddair cywasgedig ydy dadawgrymeg, felly yn cywasgu "suggestion" awgrymu a "pedagogy" pedagogeg.

Defnyddir y dull hwn yn y rhaglen Gymraeg i ddysgwyr cariad iaith:love4language. Maen debygol mai bathiad gan Ioan Talfryn ywr enw Cymraeg sydd ar y dull addysgu iaith hwn a ddefnyddir yn y rhaglen, sef "dadawgrymeg".